Rhodri Williams

Director, Ofcom Wales

Direct line:

029 2046 7201

 

 

Mobile:

07786 636888

Rhodri.williams@ofcom.org.uk

Bethan Jenkins AC

Cadeirydd

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Caerdydd

CF99 1NA

 

22 Mawrth 2017

 

 

 

 

Annwyl Bethan

 

Y Darlun Mawr – Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 16 Chwefror yn gofyn am ymateb Ofcom i’r argymhellion ynghylch Ofcom sydd yn yr adroddiad. Rwy’n amgáu ein hateb i’r ddau argymhelliad ynghyd ag ymateb i’r farn a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch trwydded ITV Cymru.

 

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â mi.

 

Llawer o ddiolch

 

Rhodri Williams

Director, Wales


 


Ymateb Ofcom i argymhellion y Pwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu

 

Parthed argymhelliad 8. “Rydym yn argymell bod Llywodraeth y DU ac Ofcom yn ystyried diwygio Cod Ymarfer Ofcom ar gyfer darparwyr Canllaw Rhaglenni Electronig i sicrhau bod S4C yn amlwg yng Nghymru yn y Canllawiau Rhaglenni Electronig a chymwysiadau teledu deallus, fel gwasanaeth iPlayer y BBC.”

 

Tarddiad ac amodau cod Canllaw Rhaglenni Electronig (EPG) cyfredol Ofcom ynghylch rhoi lle amlwg

 

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 (“y Ddeddf”) yn gosod dyletswydd ar Ofcom i sicrhau bod sianeli gwasanaeth cyhoeddus yn cael lle digon amlwg ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig. Yn fwy penodol, mae adran 310 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom fynd ati i lunio, ac o bryd i’w gilydd adolygu a diwygio, cod sy’n rhoi arweiniad ar yr arferion y dylid eu dilyn wrth ddarparu canllawiau rhaglenni electronig. Mae hyn yn cynnwys arferion ar gyfer rhoi’r fath le amlwg y mae Ofcom yn ei ystyried yn briodol wrth restru neu hyrwyddo, neu restru a hyrwyddo’r rhaglenni sydd ym mhob sianel gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer aelodau’r gynulleidfa fwriedig.

 

Er mwyn gweithredu’r ddyletswydd hon, mae Ofcom wedi cyhoeddi Cod Ymarfer ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig (“Cod EPG Ofcom”)[1]. Mae’n gosod yr egwyddorion cyffredinol y mae’n rhaid i ddarparwyr EPG gydymffurfio â hwy (paragraff 3 Cod EPG Ofcom), ond sy’n gadael iddynt benderfynu sut maent yn cydymffurfio â'r egwyddorion cyffredinol hyn:

Mae Ofcom o’r farn fod ‘rhoi lle amlwg priodol’ yn caniatáu rhywfaint o wahaniaethu o blaid sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ond, nid yw’n bwriadu rhagnodi beth ddylai rhoi lle amlwg priodol ei olygu, gan fod sawl ffordd bosibl i’r Canllawiau Rhaglenni Electronig ddangos gwybodaeth am raglenni sydd yng ngwasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Yn unol â hynny, mae’n ofynnol bod darparwyr EPG yn cydymffurfio â'r egwyddorion cyffredinol canlynol:

a.       Dylai darparwyr EPG sicrhau bod y dull maent yn ei fabwysiadu er mwyn sicrhau lle amlwg priodol, wedi’i gyfiawnhau’n wrthrychol a dylent gyhoeddi datganiad yn disgrifio eu dull;

b.      Bydd Ofcom yn rhoi sylw i fuddiannau dinasyddion a disgwyliadau defnyddwyr wrth ystyried a yw dull penodol ar gyfer rhestru sianeli gwasanaeth cyhoeddus yn rhoi lle amlwg priodol; a

c.       wrth roi lle amlwg priodol i sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, dylai Canllawiau Rhaglenni Electronig alluogi gwylwyr mewn ardal i ddewis y fersiynau rhanbarthol mwyaf priodol o’r sianeli hynny drwy brif restrau’r sianeli hynny ar yr amod bod y gwasanaeth darlledu gwasanaeth cyhoeddus dan sylw wedi sicrhau gwasanaethau sy’n galluogi hyn.[2]

 

Yn ddiweddar, rydym wedi cadarnhau bod Ofcom yn ymwybodol o’r rôl bwysig y mae lle amlwg yn yr EPG wedi'i chwarae wrth gefnogi’r system sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus: yn ein hadolygiad diwethaf o sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, daethom i’r casgliad y dylai’r egwyddorion craidd sy’n sail i gynnwys a darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus barhau; y dylai cynnwys gwasanaeth cyhoeddus fod ar gael i bawb, ac yn hawdd cael gafael arno ar systemau y mae’r gwylwyr yn eu defnyddio, a’u bod yn amlwg er mwyn ei gwneud hi’n hawdd dewis. Nodwyd gennym hefyd fod angen rhoi ystyriaeth bellach i rai materion o ganlyniad i’n hadolygiad, gan gynnwys rhoi lle amlwg.[3]

 

Yn 2016 aeth y Llywodraeth ati i ystyried y posibilrwydd o ddiwygio’r system rheoleiddio lle amlwg ar y Canllawiau Rhaglenni Electronig, a daeth i’r casgliad bod y system yn dal i fod yn effeithiol gan ddiystyru unrhyw ddiwygio deddfwriaethol.[4]

Gwasanaethau a ddaw o dan gochl y gofyniad i roi lle amlwg

 

Mae’r rhestr o sianeli a ddaw o dan gochl y gofyniad i roi lle amlwg wedi’i nodi yn adran 310 y Ddeddf: h.y. fersiynau digidol gwasanaethau BBC, yn ogystal â gwasanaethau digidol Channel 3, 4 a 5, Teletext a S4C. Mae’r Ddeddf yn nodi hefyd y gall yr Ysgrifennydd Gwladol ychwanegu at y rhestr o sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus neu dynnu oddi arni. Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Gwladol wasanaethau teledu lleol at y rhestr yn 2012 drwy gyfrwng gorchymyn[5].

Nid oes dim newidiadau eraill wedi'u gwneud i’r rhestr o sianeli nac i’r darpariaethau deddfwriaethol yng nghyswllt rhoi lle amlwg ers i’r Ddeddf ddod i rym.

Nid yw cymwysiadau teledu deallus fel iPlayer y BBC neu unrhyw wasanaeth fideo ar-alwad wedi cael eu rhestru o dan adran 310. O ganlyniad, nid ydynt yn gorfod dilyn Cod EPG Ofcom, ac nid oes yn rhaid i Ofcom chwarae unrhyw rôl i sicrhau bod y gwasanaethau hyn, na darparwyr cynnwys penodol o fewn y gwasanaethau hyn, yn cael lle amlwg.

 

Lle amlwg i S4C ar Ganllawiau Rhaglenni Electronig

 

Fel y nodwyd uchod, mae’n ofynnol bod darparwyr EPG yn cydymffurfio â Chod EPG Ofcom wrth ddyrannu safleoedd EPG ac, yn benodol yn y cyd-destun hwn, yn cydymffurfio ag adran y Cod sy’n berthnasol i roi lle amlwg i sianeli gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw’r Cod yn rhagnodi beth yw ystyr rhoi lle amlwg priodol yng nghyd-destun unrhyw wasanaeth penodol, ond mae’n nodi egwyddorion cyffredinol.

 

Os oes unrhyw ddarlledwr yn pryderu am y safle a ddyrannwyd iddo gan ddarparwr EPG, mae’n werth nodi y gall gysylltu â’r darparwr EPG hwnnw yn uniongyrchol i geisio datrys y mater. Nid oes gan Ofcom rôl reoleiddiol mewn trafodaethau o’r fath. Gall darlledwyr gyflwyno cwyn i Ofcom hefyd os ydynt o’r farn bod darparwr EPG trwyddedig wedi torri amodau gofynion ein Cod EPG. Nid ydym wedi cael sylwadau penodol gan S4C i’r perwyl hwn hyd yma.

 

Yn olaf, rydym yn cydnabod ei bod yn ofynnol, o dan adran 310 Deddf Cyfathrebiadau 2003, i ni adolygu’r darpariaethau o ran rhoi lle amlwg o bryd i’w gilydd.  Ond, dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd gan Ofcom, ac mae’n ailasesu’n rheolaidd beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio’r adnoddau hynny.  Yn sgil blaenoriaethau polisi sy’n cystadlu â hyn, a chan nad oes diwygio deddfwriaethol, nid oes fwriad gennym ar hyn o bryd i adolygu'r Cod EPG yng nghyd -destun darpariaethau i roi lle amlwg.  Rydym yn ymwybodol bod y Cod presennol yn cyfyngu rhywfaint ac felly mae’n bosib y byddwn yn ailedrych ar y sefyllfa hon yn y dyfodol.

 

 

Parthed argymhelliad 11. Rydym yn galw ar Ofcom i asesu pa bwerau sydd ganddo i gynyddu cwotâu Channel 4 y tu allan i Loegr cyn adnewyddu’r drwydded nesaf yn 2024 a thrwy wneud hynny, ailystyried yr opsiynau mwy heriol a awgrymwyd ar gyfer cynyddu’r cwota yn 2013-14.”

 

Yn unol â'r Ddeddf Cyfathrebiadau, rhaid i Ofcom roi trwydded ar gyfer darlledu Channel 4 ac mae’n gorfod gosod ystod o rwymedigaethau yn nhrwydded Channel 4, gan gynnwys:

·         Cwotâu ar gyfer cyfran isaf o gynyrchiadau gwreiddiol cymwys i gael eu comisiynu gan gynhyrchwyr annibynnol ac o’r tu allan i Lundain;

·         Cwotâu ar gyfer cyfran isaf benodol o raglenni gwreiddiol ar gyfer y sianel; a

·         Gofynion i gynnwys swm priodol o newyddion y DU, materion cyfoes, a rhaglenni i ysgolion;

·         Cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus penodol sy’n cael ei osod yn amod yn y drwydded.

Wrth osod amodau’r drwydded, rhaid i Ofcom ystyried a yw’r rhwymedigaethau a osodwyd ar Channel 4 yn cyfrannu at ddibenion cyffredinol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Rhaid i ni ystyried hefyd gyfraniad a chost gwahanol amodau'r drwydded a bod y drwydded, ar y cyfan, yn gynaliadwy. 

Rhoddodd Ofcom ystyriaeth i hyn yn ei Ail Adolygiad o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus[6] ac o ganlyniad, newidiodd rai o amodau'r drwydded ar gyfer Channel 4. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu’r cwota ar gyfer rhaglenni a gynhyrchir y tu allan i Lundain i 35% o’r gwariant a’r oriau. Ar ben hynny, rydym wedi gosod cwota newydd hefyd ar gyfer cynhyrchu y tu allan i Loegr (h.y. yng ngwledydd y DU: Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon) o 3%.

Fel rhan o broses adnewyddu'r drwydded ar gyfer Channel 4 yn 2014, aethom ati i gynyddu'r cwota ar gyfer y tu allan i Loegr i 9% o’r gwariant a’r oriau erbyn 2020. Ar ôl ystyried y dystiolaeth ac ymatebion y rhanddeiliad a gawsom yn y broses ymgynghori, roeddem o'r farn fod rhoi ffigur o 9% erbyn 2020 yn ofyniad cymesur y gellid ei gyflawni. Rhaid bod modd cyfeirio’r gofyniad at ganolfannau cynhyrchu yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Rydym wedi nodi’r rhesymau dros hyn yn natganiad adnewyddu’r drwydded.[7]

Gan nad yw lefel y cwota newydd wedi dod i rym eto, ni allwn adolygu pa mor effeithiol yw. Er nad ydym yn bwriadu ailystyried lefel y cwota hwn ar hyn o bryd, byddwn yn dal i fonitro cynnydd Channel 4 yn y maes hwn fel rhan o’n hymateb blynyddol i’r Datganiad o Bolisi Cynnwys Cyfryngau. O hyn, rydym yn nodi bod Channel 4 wedi gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r gofyniad 9% yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

 

2011

2012

2013

2014

2015

Y tu allan i Loegr:

Cyfran y gwariant

4.2%

5.4%

5.9%

6%

7%

Y tu allan i Loegr:

Cyfran yr oriau

5%

7%

6.6%

6.1%

9%

 

Rydym yn nodi hefyd fod Ch4 yn ymwneud mwy ag ystod o gynrychiolwyr gwledydd i feithrin perthynas bellach ac adrodd ar y cynnydd, gan gynnwys pob un o Bwyllgorau Cynghori Ofcom ar gyfer pob gwlad. 

 

 


 

Parthed barn y Pwyllgor am drwydded Sianel 3 i Gymru: “Er ei fod beth amser i ffwrdd, wrth ystyried trwydded newydd Sianel 3 ar gyfer Cymru, credwn y dylid rhoi ystyriaeth i lacio rhai o’r gofynion a osodir ar ddeiliad y drwydded yn gyfnewid am fwy o allbwn sy’n benodol Gymreig. Fodd bynnag, o ystyried na chaiff y drwydded ei hadnewyddu tan 2024, credwn fod achos i Ofcom edrych ar y materion hyn cyn bod hanner ffordd drwy’r drwydded i weld a ellir llacio rhai o’r gofynion yn gyfnewid am fwy o allbwn sy’n benodol Gymreig.”

 

Gan fod trwydded ITV Cymru yn rhan o rwydwaith Sianel 3, mae nifer o rwymedigaethau yn y drwydded sy’n berthnasol i raglenni rhwydwaith yn ogystal â rhaglenni sy’n benodol i faes y drwydded. Yn unol â’r ddeddfwriaeth, mae’n ofynnol i Ofcom osod gofynion sylfaenol ar gyfer pob un o’r rhwymedigaethau hyn i’w gweithredu drwy gydol cyfnod y drwydded. Nid oes gennym yr hawl i benderfynu a allwn gynnwys y rhwymedigaethau hyn yn y drwydded

Yn ein datganiad ar adnewyddu trwyddedau Sianel 3, roeddem o’r farn fod amcangyfrifon ITV o gostau a manteision y drwydded yn rhesymol ac yn debygol o barhau er mwyn sicrhau’r rhwymedigaethau ar gyfer cyfran helaeth o gyfnod y drwydded nesaf. Nid ydym wedi cael tystiolaeth sy’n gwrthddweud y farn hon.

Rydym yn sylweddoli bod y rhanddeiliaid yn awyddus i weld darpariaeth well o raglenni newyddion a rhaglenni nad ydynt yn rhaglenni newyddion, sy’n berthnasol i Gymru, ac rydym wedi nodi yn y datganiad nad yw’r rhwymedigaethau presennol yn atal trwyddedeion Sianel 3 rhag darparu rhagor o gynnwys sy’n benodol i unrhyw faes penodol yn y drwydded lle y bo hyn yn ymarferol.

 

 



[1] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0031/19399/epgcode.pdf

[2] Paragraff 3 y cod

[3] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0025/63475/PSB-statement.pdf

[4] Mae hyn wedi'i nodi yn yr adroddiad ymgynghori “The balance of payments between television platforms and public service broadcasters. Ymateb y Llywodraeth 5 Gorffennaf 2016.”

[5] Gorchymyn Cod Ymarfer ar gyfer Canllawiau Rhaglenni Electronig (Ychwanegu Gwasanaeth Rhaglen) ('a.310 Gorchymyn').

[6] https://www.ofcom.org.uk/cymru/consultations-and-statements/category-1/psb2_phase2

 

[7] https://www.ofcom.org.uk/consultations-and-statements/category-3/renewal-c4-licence-out-of-england-quota